Mewnosodiad ydi Y Tu Mewn a grëwyd yn ystod cyfnod fel Artist Preswyl yng Nghanolfan Grefft Rhuthyn. Cymrodd sawl mis i Tyson greu Y Tu Mewn: profiad aml-synnwyr yn archwilio rhagrith defnyddio'r frawddeg “yr hyn sydd y tu mewn sy'n bwysig”. O gamu i'r gofod caiff ymwelwyr eu hamgylchynu'n llwr, gan eu croesawu i grombil y gwaith diddos a dengar hwn. Yn y gwaith, mae llatheni o ddefnydd sidanaidd tonnog gyda phlygiadau benywaidd wedi'u gwnïo â llaw yn ein cyflwyno i fyd cyfrin ble gwahoddir ymwelwyr i orffwyso a threulio amser. Mae gan gyfarfyddiad arbrofol Tyson fwy o haenau nac a welir: mae muriau'r strwythur yn symud gan wneud i chi feddwl eu bod yn anadlu, yn galw ar y corff perfeddol mewn modd annaearol.
Ffotograffau: Mark Devereux Projects, Stephen Iles